Cyflwyniad

 

1.    Diben y papur hwn yw amlinellu tystiolaeth ysgrifenedig ar hybu menter ar gyfer y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Mae twf a swyddi cynaliadwy wrth wraidd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a’r brif flaenoriaeth yw cyflawni yn y meysydd hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ystod o fesurau i hybu menter drwy wella sefyllfa busnesau yng Nghymru a’r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo.

 

2.    Mae’n bwysig ystyried ein polisïau yn yr hirdymor, mynd i’r afael â materion strwythurol yn yr economi, a lleddfu’r pwysau y mae unigolion a busnesau’n eu hwynebu yn y tymor byr. Felly mae’r dystiolaeth hon yn canolbwyntio ar weithgarwch sydd wedi’i ddatblygu mewn dau faes cyffredinol: helpu busnesau drwy gyfnod anodd a buddsoddi ar gyfer twf a swyddi yn y dyfodol. 

 

 

Helpu busnesau drwy gyfnod anodd

 

3.    Rydyn ni wedi sefydlu ystod o gronfeydd newydd i’w gwneud yn haws i fusnesau gael cyllid. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Twf Economaidd Cymru sydd werth £30m, Cronfa Fuddsoddi BBaChau Cymru sydd werth £40m, Cronfa Gwyddorau Bywyd sydd werth £100m a’r Gronfa Twf BBaChau Ynni a’r Amgylchedd sydd werth £330,000.

 

4.    Hyd yn hyn mae 118 o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru, a disgwylir iddynt greu tua 1800 o swyddi newydd a diogelu tua 1600 o swyddi. Disgwylir i Gronfa Fuddsoddi BBaChau Cymru helpu i greu 4000 o swyddi. Bydd y Gronfa Gwyddorau Bywyd yn gwneud Cymru’n lleoliad mwy deniadol fyth ar gyfer ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd. Bydd peilot y Gronfa Twf BBaChau Ynni a’r Amgylchedd yn para am ddwy flynedd i ddechrau, a disgwylir y bydd yn helpu i greu dros drigain o swyddi newydd a diogelu tua deugain o swyddi yn y deuddeg mis cyntaf. 

 

5.    Rydyn ni hefyd wedi ymestyn y Gronfa Datblygu Digidol ac wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £1.5m i gefnogi busnesau yn y sector diwydiannau creadigol.

 

6.    Mae’r cronfeydd hyn yn ategu cronfa JEREMIE Cymru a gefnogir gan £150m gan Ewrop. Dyma’n prif ffynhonnell o gyllid masnachol ar gyfer BBaChau cymwys. Mewn ychydig dros ddwy flynedd, mae cronfa JEREMIE Cymru wedi buddsoddi dros £95m mewn mwy na 430 o fusnesau.

 

7.    Yn ogystal, pwysleisiodd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficro-Fusnesau yr heriau sylweddol y mae’r sector micro-fusnesau’n eu hwynebu. Ymatebom ar unwaith drwy sefydlu’r Gronfa Fenthyciadau i Ficro-Fusnesau sydd werth £6m. Bydd yn gallu cefnogi o leiaf 300 o fusnesau a bydd yn weithredol ym mlwyddyn ariannol 2012/13. Hefyd rydyn ni’n parhau i gymryd camau i roi argymhellion eraill yr adroddiad ar waith.

 

8.    Rydyn ni hefyd yn cymryd nifer o gamau i’w gwneud yn haws i ddechrau a thyfu busnes. Rydyn ni wedi sefydlu rhwydwaith Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Busnes i hyrwyddo entrepreneuriaeth a busnesau newydd, a rhoi cyngor ar y cymorth sydd ei angen i helpu busnesau newydd a bach a sut gall Llywodraeth Cymru ennyn diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru. 

 

9.    Lansiwyd ein prosiect Busnesau Newydd â Photensial Mawr sydd werth £2m i annog mentrau busnes twf uchel newydd, ac rydyn ni’n parhau i roi cyngor a chymorth busnes o safon uchel i fusnesau drwy’n Llinell Gymorth Gwybodaeth Fusnes, y Gwasanaeth Dechrau Busnes a’n rhwydwaith o ddeuddeg Canolfan Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol. 

 

10.Mae datblygu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid yng Nghymru yn allweddol i’n gwaith ac mae’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) yn rhan bwysig o hynny. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â’r 10 cam gweithredu a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu YES.

 

11.Rydyn ni hefyd wedi cymryd camau sylweddol i newid ein hagwedd at fasnach a buddsoddi. Rydyn ni wedi sefydlu tîm newydd i arwain ar weithgarwch buddsoddi a masnach o’r tu allan o ansawdd uchel a gweithio’n agos gyda thimau sector a staff mewn swyddfeydd tramor, yn ogystal â UKTI. Mae cysylltiadau da gyda UKTI yn hanfodol wrth i ni geisio sicrhau bod busnesau Cymru yn allforio mwyfwy.

 

12.Rydyn ni wedi croesawu nifer o ymweliadau proffil uchel gan UKTI drwy gydol y flwyddyn ac wedi arwain nifer o deithiau masnach. Hefyd, canolbwynt cyfarfod diweddaraf y Cyngor Adnewyddu’r Economi oedd sut gallwn ni roi hwb pellach i allforio o Gymru a denu buddsoddiad tramor. 

 

 

Buddsoddi ar gyfer twf a swyddi yn y dyfodol

 

13. Rydyn ni wedi datblygu ystod o bolisïau a chamau gweithredu i gefnogi twf a swyddi lleol yn yr hirdymor. Rydyn ni’n parhau i wneud cynnydd gyda’r Ardaloedd Menter yng Nghymru. Mae Byrddau’r Ardaloedd Menter wedi paratoi’u hamcanion strategol yng nghynlluniau pob un o’r Ardaloedd Menter. Mae’r rhain yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gan ddechrau gyda’r cynigion seilwaith oherwydd bod angen buddsoddiad cyfalaf mewn llawer o achosion i sicrhau’r amgylchiadau cywir i ddenu busnesau. Hefyd, mae cynlluniau marchnata bellach wedi’u cwblhau ar gyfer y saith Ardal Menter, gan gynnwys strategaethau cyflawni a thargedu unigol, cynigion marchnata manwl a chynlluniau gweithgarwch. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i hybu’r ardaloedd mewn marchnadoedd lleol a rhyngwladol. Bydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod llawn ar 27 Tachwedd. 

 

14. Nid yr Ardaloedd Menter yw’r unig ddull datblygu economaidd gofodol rydyn ni’n ymchwilio iddo. Mae addasu’r ffordd rydyn ni’n cefnogi swyddi a thwf yn ôl gwahanol amgylchiadau economaidd lleol yn hollbwysig i’n gwaith. Rhoddodd adroddiad Ardaloedd Twf Lleol Powys dipyn i ni gnoi cil arno o ran mynd i’r afael â’r heriau y mae ardaloedd gwledig a threfi marchnad Powys yn eu hwynebu, ac yn wir ledled Cymru gyfan. Bydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ffurf datganiad llafar ddechrau mis Tachwedd.

 

15. Mae Dinas-ranbarthau yn ddull gweithredu arall. Mae’r dystiolaeth yn dangos y gall Dinas-ranbarthau arwain at farchnadoedd llafur mwy o faint a mwy effeithiol, a marchnadoedd mwy cystadleuol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, sy’n cael eu hwyluso drwy gynllunio a chysylltiadau gwell. Gall y manteision eraill gynnwys amrywiaeth o welliannau trafnidiaeth ac adnabod nifer fach o brosiect rhanbarthol bwysig er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl yn sgil cyllid yn y dyfodol.

 

16. Rydyn ni hefyd am wella’n hadnoddau gwyddoniaeth ac arloesi. Dyna pam ein bod ni wedi lansio ‘Gwyddoniaeth i Gymru – Agenda strategol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru’. Roedd hyn yn cynnwys £50m ychwanegol ar gyfer ymchwil a datblygu gwyddoniaeth ym mhrifysgolion Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Rydyn ni hefyd wedi ehangu’r Rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, gan alluogi busnesau Cymru i gymryd rhan mewn prosiectau trosglwyddo rhyngwladol.

 

17. Yn olaf, rydyn ni’n cymryd camau sylweddol i wella’n trefniadau cyfathrebu gwybodaeth ac rydyn ni wedi arwyddo cytundeb gyda BT ar gyfer prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd a chymeradwyaeth Prosiect Mawr. Nod y bartneriaeth gyda BT yw dod â manteision band eang ffeibr i’r mwyafrif o’r ardaloedd hynny sydd y tu allan i gynlluniau buddsoddi masnachol y sector preifat. Bydd y manylion cyflwyno’n cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn yr hydref wedi i ni gael y gymeradwyaeth cymorth gwladwriaethol a’r gymeradwyaeth prosiect mawr.

 

 

Crynodeb

 

18.Mae’r dystiolaeth yn y papur hwn yn amlinellu rhai o’r camau sy’n helpu i gefnogi a buddsoddi mewn cwmnïau o ansawdd sy’n perfformio’n dda ym mhob rhan o’r economi a all greu swyddi, cyfoeth a Chymru gynaliadwy.

 

 

Y Prif Weinidog

31 Hydref 2012